Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Teams
Dyddiad: Dydd Llun, 15 Mawrth 2021
Amser:
13.51 -
14.13
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11098
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Huw Irranca-Davies AS Dai Lloyd AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Alun Davidson (Clerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) Nia Moss (Ymchwilydd) Rhun Davies (Ymchwilydd) Lucy Valsamidis (Ymchwilydd) Sara Moran (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rowlands a Nick Ramsay.
2 Fframwaith cyffredin dros dro ar hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid - trafod allbwn drafft
2.1 Trafododd yr Aelodau yr allbwn drafft, a chytunwyd arno.
3 Trafod cytundebau rhyngwladol
3.1 Trafododd yr Aelodau y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:
· Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Thwrci
· Cytundeb ar Wasanaethau Awyr rhwng y DU a Gwlad yr Iâ
· Cytundeb ar Wasanaethau Awyr rhwng y DU a Norwy
· UK-Square Kilometre Array Observatory (SKAO)
3.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chytundebau rhyngwladol.
4 Cysylltiadau rhynglywodraethol - trafod gohebiaeth ddrafft
4.1 Trafododd yr Aelodau yr ohebiaeth ddrafft, a chytunwyd arni.
Sylwadau i gloi
Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben trwy ddiolch i Aelodau presennol ac Aelodau blaenorol y Pwyllgor, eu staff cymorth, a thîm clercio, ymchwilwyr a chynghorwyr cyfreithiol y Pwyllgor.